Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

09 Ionawr 2023

SL(6)300 – Rheoliadau Adnoddau Dwr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2021 drwy ohirio y dyddiad gweithredu ar gyfer y terfyn uchaf blynyddol o 170kg yr hectar o nitrogen mewn tail da byw sy’n cael ei wasgaru, a’r cyfnod cadw cofnodion perthnasol,  o 1 Ionawr 2023 i 30 Ebrill 2023 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991

Fe’u gwnaed ar: 8 Rhagfyr 2022

Fe’u gosodwyd ar: 9 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym: 31 Rhagfyr 2022